Newyddion Mai 2022

Newyddion Mai 2022

Daeth un o rasys mwyaf cyfarwydd a phoblogaidd Clwb Sarn Helen, sef Ras Ffordd 10 Milltir Teifi, yn ôl i fywyd ar y 24ain o Ebrill wedi dwy flynedd o seibiant oherwydd y feirws Covid a daeth cant ac un o redwyr i redeg y cwrs sydd yn cychwyn y tu ôl i Glwb Rygbi Llanbed ac yn dilyn yr heol i Lanfair Clydogau cyn croesi’r afon a dychwelyd trwy Gellan i’r cae rygbi.

Eleni yr oedd awyr las bob cam ond hefyd awel gref yng nghwynebau’r rhedwyr nes cyrraedd Llanfair. Y cyntaf i gwblhau’r daith oedd John Collier o Glwb Treiathlon Sir Benfro mewn 55 munud a10 eiliad a’r fenyw gyntaf oedd Wendy Price o glwb Dyffryn Amman (68:17). Llwyddodd Clwb Sarn Helen i ennill y wobr tîm˛ ychydig o flaen Clwb Athletau Aberystwyth, ac yn wir yr oedd carfan niferus o’r clwb yn cystadlu. Ymhlith y gwobrau i ddynion daeth Meic Davies (64:13) yn gyntaf yn y dosbarth dros 50 gyda Glyn Price (65:20) yn ail a daeth Tony Hall (80:52) yn ail yn y dosbarth dros 60 tra ymhlith y gwobrau i fenywod Caryl Wyn Davies (73:29) oedd enillydd y dosbarth agored gyda Dee Jolly (72:17) yn 3ydd yn y dosbarth dros 35 a Lou Summers (71:11) ac Eleri Rivers (78:16) yn gyntaf ac ail yn y dosbarth 45 -55.  Cafwyd perfformiadau cryfion hefyd gan aelodau eraill o’r clwb. Aelod ifanc newydd, Steffan Walker o Bennant oedd y cyntaf o redwyr y clwb i orffen gan ddod yn ddegfed y y ras mewn 60 munud a14 eiliad gyda Simon Hall (63:43) yn 15fed, Gareth Payne (65:28) yn 18fed, a’r rhedwr ifanc addawol Daniel Jones (65:42) yn gwneud yn eithriadol i ddod yn 19feg o ystyried mai Dylan Lewis (66:00) a Gethin Jones (66:38) oedd yn ei ddilyn gyda rhedwr ifanc arall o addewid, Jonathan Pryce (66:58) yn glos y tu ôl iddynt. Rhaid nodi ymdrechion glew hefyd ar ran Arwyn Davies (68:35 yn ei ras gyntaf dros y clwb), Steffan Thomas (68:39), Mark Rivers ( 72:33), Aled Morgan (72:46) ac Eric Rees (73:08). Dangosodd Matthew Walker ( 76:22) ei fod yn parhau i gryfhau a chafwyd ymddangosiadau gan aelodau eraill sy’n gyfarwydd iawn â’r ras hon  -   Huw Price (80:26), Delyth Crimes (82:53), a Mitchell Readwin (82:44). Da hefyd oedd gweld y ddau feiciwr John McDonagh a Jason Lambert yn gorffen gyda’i gilydd (85:21) a dau gystadleuydd arall sydd i’w gweld yn amlach ar feic, Pamela Carter (94:44) a Dorian Rees (98:57) yn dilyn. Llongyfarchiadau i Carol Evans hefyd (109:10) ar ymdrech dda i ddod yn 6ed yn nosbarth y menywod dro 55.

Bu sawl un o aelodau’r clwb hefyd yn cystadlu ymhellach oddi cartref yn ystod y misoedd diwethaf, neb yn fwy prysur na Lou Summers a hithau’n gorffen yn 3ydd fenyw yn y ras fynydd heriol o Lanbedr ger y Fenni i Flaenafon (3 awr 2 funud a 7 eiliad) ar y 26ain o Fawrth, yn 10fed yn nosbarth y menywod yng nghyfarfod Cynghrair Traws Gwlad Gwent ar y 19eg o Fawrth ac yn fenyw gyntaf y ras 8 milltir Hydro-Dragon yng Nghei Newydd ar y 3ydd o Fawrth.  Yn y râs honno yng Nghei Newydd enillwyd ras y dynion hefyd gan Jonathan Price.

Cynhaliwyd ras farathon a hanner marathon ym Mhenybre ay y 10fed o Ebrill ac yn y râs 26 milltir daeth Nigel Davies yn ail yn nosbarth y dynion dros 50 mewn 3 awr 2 funud a 46 eiliad gyda Carwyn Davies o Bumsaint (3:12:28) yn dod yn 4ydd yn nosbarth y dynion dros 40. Yn y ras 13 milltir daeth Joanna Rosiak (2:5:44) yn 20fed a Kirsty James (2:10:36) yn 25ain yn nosbarth y menywod dros 45.

Digwyddiad nesaf y Clwb fydd Ras 5 Milltir Dyffryn Cledlyn yn Nrefach o ddeuddeg o’r gloch ymlaen ar yr ail o Fai.

{gallery layout="flow" lightbox_autostart=1}News/2022/Teifi_10{/gallery}